Mae llawdriniaeth ostomi, wedi’i chynllunio neu ar frys, yn gallu bod yn frawychus ac arwain at lawer o gwestiynau a phryderon am fyw bywyd gyda stoma. Os ydych chi’n darllen hwn cyn eich llawdriniaeth neu newydd gael ostomi, cofiwch dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae miloedd o bobl yn cael llawdriniaeth ostomi yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn, ac o ganlyniad mae rhwydwaith o bobl sydd wedi cael ostomi ar gyfryngau cymdeithasol ac mewn grwpiau cymorth sy’n fwy na pharod i rannu eu profiadau a chynnig cyngor o lygad y ffynnon – fe fyddan nhw’n dod i deimlo fel eich ail deulu! Mae llawer o wybodaeth ac arweiniad ar gael i chi ar-lein, a allai deimlo’n llethol, ond cofiwch estyn allan i’ch Nyrs Stoma neu wasanaeth cymorth (fel ni) os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon. Mae rhai cysylltiadau defnyddiol ar waelod y blog hwn os oes arnoch angen unrhyw gymorth.
Dyma flog graff iawn gan Rachel, sy’n ddefnyddiwr Respond, cefnogwr yr ymgyrch #GwiredduNewid, gwraig, mam, a rhywun sydd newydd gael ostomi, ar ei thaith stoma a’i phrofiad hyd yma. here i gael rhagor o wybodaeth am bynciau fel rhyw ac agosatrwydd ar ôl llawdriniaeth, deiet ac ymarfer corff, a chliciwch yna i fynd i’r adran Cyn Llawdriniaeth o’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth a chyngor cyn cael llawdriniaeth.
My ostomy story…
Roedd y cyfnod clo wedi bod ar waith am 3 mis o ganlyniad i Covid-19, ac roeddwn i wedi derbyn y ffaith bod llawdriniaethau heb fod yn frys wedi’u canslo, felly fe allwch ddychmygu fy syndod pan ges i’r alwad y byddwn yn cael fy llawdriniaeth ileostomi ymhen pythefnos. Bu’n rhaid i ni ynysu fel teulu. Rwy’n wraig, yn fam ac yn llysfam ac mae fy mywyd pob dydd yn canolbwyntio ar ofalu am fy mab ifanc Jake sy’n dioddef o glefyd Hirschsprung, fel fi.
O ran fi fy hun, roedd fy mhlentyndod a blynyddoedd fy arddegau’n llawn pyliau misol o enterocolitis, ond roedd fy ugeiniau cynnar yn haws, a roddodd gyfle i fi gymhwyso fel Athrawes Ysgol Uwchradd ar frig fy nosbarth. Roeddwn i mor falch ac yn teimlo fy mod i wedi dod o hyd i fy ngalwedigaeth mewn bywyd. Roeddwn i wedi canfod cydbwysedd newydd yn ogystal â chwrdd â fy ngŵr a symud i mewn ar ôl 3 wythnos (ar ei gais ef, er gwaethaf beth mae’n ei ddweud!). Ganwyd fy mab Jake yn 2016 ac o fewn oriau roedd fy ngreddf fel mam yn dweud wrtha i fod ganddo’r un cyflwr â fi. Roeddwn i wedi paratoi fy hun yn feddyliol ar gyfer hyn, gan gredu ym mêr fy esgyrn y byddai’n digwydd, ond roeddwn i’n teimlo’n ofnadwy dros fy ngŵr oherwydd bod fy llysfab Oliver wedi bod yn gymharol iach.
Bu’n rhaid i fy ngyrfa addysgu gymryd cam yn ôl wrth i mi ddod yn ofalwr Jake, a dechreuodd fy mhoen cronig ar ôl ei enedigaeth. Roedd problemau misol â’r stumog yn un peth, ond roedd poen cronig yn rhywbeth doeddwn i ddim yn barod amdano. Rwy’n edmygu pawb ohonoch sy’n byw gydag ef. Mae’n eich nychu, yn eich newid yn feddyliol ac mae’n cymryd cymaint o nerth i fyw eich bywyd beunyddiol a chyflawni’ch cyfrifoldebau.
Roedd fy rhieni, sydd wedi bod yn gefn i mi drwy’r cyfan, wedi trefnu’r apwyntiad ac fe fydda i’n ddiolchgar iddyn nhw am byth am hynny. Rydyn ni wastad wedi bod yn agos ac yn agored iawn, ac ar ôl cael Jake rwy’n deall pam, oherwydd bod gweld eich plentyn yn mynd trwy brofiadau o’r fath yn creu cwlwm heb ei debyg. Fe wnes i waith ymchwil o flaen llaw ac roedd llawfeddygon Jake yn gwybod amdano hyd yn oed. Roedd ganddo enw da iawn. Doedd fy ngŵr ddim eisiau i fi godi fy ngobeithion, ond cyn gynted ag y trafododd fy opsiynau fe roddodd y gobaith i fi yr oeddwn wedi’i golli flynyddoedd yn ôl. Fe es i ymlaen i’w weld trwy’r GIG wedi hynny ac ar ôl rhai o’r sganiau a’r profion safonol, penderfynwyd taw stoma oedd fy opsiwn gorau i gael fy ansawdd bywyd yn ôl. Erbyn hyn, doeddwn i ddim yn gallu cerdded heb fod mewn poen ac roeddwn i’n cymryd digon o boenladdwyr i lorio criw bach o eliffantod!
Pan ddigwyddodd Covid-19, fe roddes i lawdriniaeth stoma yng nghefn fy meddwl, gan dybio na fyddai angen i fi ddelio ag ef am amser hir, felly fe ges i a fy nheulu sioc pan ddaeth yr alwad. Roedd yn adeg ofidus i fy rhieni’n arbennig, a oedd wedi fy ngweld i a Jake trwy’r llawdriniaethau a’r cyfnodau o salwch. Ac roedd fy ngŵr, sydd wastad wedi bod yn bositif ac yn gryf, wedi fy annog i edrych ymlaen at ddyfodol posibl heb boen cronig pan allwn i fod y Fam yr oeddwn i eisiau bod a chael anturiaethau fel y cynllunion ni ar ddechrau ein perthynas.
Fe ofynnes i i rai o aelodau’r gymuned ostomi a’r bobl arbennig roeddwn i wedi cwrdd â nhw trwy ymgyrch #GwiredduNewid Respond am gyngor ar sut i baratoi, ond roeddwn i’n nerfus iawn o hyd. Rwy’n gallu newid bag stoma Jake gyda fy llygaid ar gau, does dim llawer o bethau’n codi cyfog arna i ac roeddwn i wedi hyrwyddo stomata a’r clefyd ers blynyddoedd trwy fy nghyfrif Instagram, ond doeddwn i ddim yn barod am sut byddwn i’n teimlo ar ôl y llawdriniaeth. Ffurfiwyd fy ail stoma ar ddydd Mawrth 30 Mehefin 2020 trwy lawdriniaeth laparosgopig (twll clo). Mae fy llawfeddyg yn ofalgar iawn ac yn gwneud i chi deimlo’n obeithiol a bod rhywun yn gofalu amdanoch. Byddwn yn rhoi’r byd iddo i ddweud diolch pe gallwn, a’i ysgrifenyddes hyfryd Kate, yr ydw i wedi’i ffonio mor aml ac a oedd mor hyfryd a chymwynasgar ar y ffôn.
Doeddwn i ddim yn teimlo poen wrth ddeffro, ond doeddwn i ddim eisiau gweld y stoma. Doeddwn i ddim yn gallu credu bod gen i un, nid oedd yn teimlo’n wir, doeddwn i ddim eisiau cyffwrdd ag ef na’i newid. Roedd y bag yn glir er mwyn i’r nyrsys ei weld, a doeddwn i ddim yn barod am hynny, felly fe weles i e’n eithaf cyflym ac roeddwn i’n teimlo’n sâl. Yn sâl ac yn gywilyddus fel petawn i’n bod yn amharchus tuag at Jake. Roedd e’n byw gydag ef bob dydd heb falio taten, felly oni ddylwn i allu gwneud yr un peth? Doeddwn i ddim yn gallu newid y bag. Dywedodd y nyrs stoma fod dangos y ffordd i fi fel dysgu pader i berson, ond roeddwn i eisiau cuddio, nid cydweithio. Fe ddarllenes i yn fy ngwaith ymchwil cyn y llawdriniaeth fod yr ymennydd yn gallu gwneud i chi ymateb fel hyn oherwydd ei fod yn cydnabod y dylai’r coluddyn fod y tu mewn i’ch corff ac nid y tu allan iddo. Dilynwyd hyn gan ben tost ôl-ddwral asgwrn cefn, sy’n digwydd pan nad yw’r pibellau gwaed yn cyfangu pan fyddwch yn sefyll neu’n eistedd i fyny ar ôl cael pigiad asgwrn cefn ar gyfer meddyginiaeth yn ystod llawdriniaeth. Ar ôl pedwar diwrnod yn yr ysbyty ac wythnos o fethu codi fy mhen heb deimlo fel chwydu, fe ges i fy rhythm yn ôl a dechrau ymdopi â fy normal newydd. Gan fy mod i wedi defnyddio cynhyrchion Respond ar gyfer Jake ers pedair blynedd, fe ges i gysur yn y cynhyrchion a oedd eisoes gen i ac yr oeddwn i’n gyfarwydd â nhw. Yn ystod galwadau ffôn ar gyfer archebion Jake, gofynnodd yr hyfryd Tom, Ceri a James i fi sut aeth fy llawdriniaeth a sut roeddwn i’n teimlo. Anfonodd Natalie annwyl flodau ata’ i oddi wrth y tîm, a oedd yn syrpréis mawr ac wedi fy syfrdanu. Rwy’n gwybod fy mod i a Jake wastad yn gallu dibynnu arnyn nhw i fod yno. Gan eu bod nhw wedi bod yn rhan o’n taith stoma am gyhyd, rwy’n gwybod y galla’ i eu ffonio nhw i awgrymu cynnyrch neu dasgu syniadau ar gyfer rhywbeth i Jake unrhyw bryd, hyd yn oed pan fydda’ i dan straen fel Mam!
Wrth i fi ysgrifennu’r blog hwn, mae’n debyg y bydd fy stoma’n gorfod cael ei ailffurfio. Mae’n ymddangos bod fy ategolyn newydd yn fy mhrofi’n barod ar ôl encilio a methu gwella’n briodol, ond rwy’n gwybod os bydda i’n mynd ar fy nghyfrif Instagram, o fewn ychydig oriau bydd rhywun yn mynd trwy’r un peth. Mae hynny’n rhoi cysur i fi. Rydw i wedi canfod gan bobl eraill sydd wedi cael ostomi ei bod yn gallu cymryd wythnosau, os nad misoedd, i dderbyn eich corff newydd. Doeddwn i ddim yn disgwyl yr ymateb emosiynol ges i, gan feddwl y byddwn i’n gallu ei wneud gyda fy llygaid ar gau fel Jake, a sgipio i ffwrdd tua’r gorwel i ddechrau ein hanturiaethau newydd fel teulu. Rwy’n sylweddoli bellach fod angen i fi roi amser i fy hun, bod yn garedig tuag at fy hun a chael cysur yn y ffaith ‘mod i’n ffodus iawn o fod wedi cael y llawdriniaeth yma, yn enwedig yn ystod pandemig byd-eang. Mae fy llawfeddyg wedi rhoi fy mywyd yn ôl i fi. Ni fydd yn rhwydd, ond mae’n gyfle i fyw bywyd i’r eithaf, a doeddwn i ddim yn gallu gwneud hynny yn ystod y 4 blynedd diwethaf. Roedd Jake wrth ei fodd pan ddes i adref, ac nid ‘Helô Mam’ oedd ei gyfarchiad ond ‘ble mae dy stoma, te?!’.
Fy archeb gyntaf…
Daeth fy archeb gyntaf gan Respond yn gyflym, ac roeddwn i’n gyffrous o weld ei bod hefyd yn cynnwys bag ymolchi hyfryd a siswrn newydd, sy’n anodd dod o hyd iddyn nhw! Anfonwyd copi o’r cylchgrawn Connect hefyd, a oedd yn fy nghynnwys i a Jake gyda’n ffrindiau o’r ymgyrch #GwiredduNewid.
Wrth sgwrsio â’r tîm hyfryd i drafod fy archeb o flaen llaw, fe wnaethon nhw’n siŵr fod gen i bopeth yr oedd arna’ i ei angen a gofyn a oedd gen i unrhyw gwestiynau neu gynhyrchion mewn golwg. Does dim cwestiynau twp a, chredwch chi fi, rydw i wedi gofyn ambell un dros y blynyddoedd ar gyfer archebion Jake! Er gwaethaf yr holl amheuon ac ansicrwydd sy’n gysylltiedig â chael fy stoma newydd, rwy’n gwybod y bydd fy archebion gan Respond wastad yn saff ac yn ddiogel. Rydyn ni mor ffodus o gael y GIG ac rydw i’n fythol ddiolchgar am bopeth rydw i a Jake wedi’i gael dros y blynyddoedd i fyw ein bywydau hyd eithaf ein gallu.
Gobeithiwn eich bod wedi mwynhau ein postiad blog diweddaraf ac yn credu ei fod yn graff, yn llawn gwybodaeth ac yn rhoi tawelwch meddwl os ydych ar fin cael llawdriniaeth ostomi neu wedi’i chael yn ddiweddar. Fel y soniwyd, mae llawer o adnoddau ar gael i chi ar-lein (ac mewn grwpiau cymorth, pan fydd hynny’n ddiogel). Dyma rai sefydliadau gwych sydd ar gael ar-lein a thros y ffôn i gynnig ychydig o gymorth ychwanegol:
- Colostomy UK
- Ileostomy and Internal Pouch Association
- Urostomy Association
- Crohn’s and Colitis UK
- Mind, The Mental Health Charity
- Macmillan Cancer Support
Fel y soniodd Rachel, bydd yn cael llawdriniaeth ostomi arall i ailffurfio’r un presennol sydd ganddi, ac mae hi wedi cytuno’n garedig i ysgrifennu blog am y profiad i ni – felly, cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i glywed y diweddaraf! Ewch i gyfrif Instagram Rachel@gutsy.mumi gael diweddariadau ar ei thaith hi ac, wrth gwrs, taith Jake.
For I gael gwybod am ein gwasanaeth sydd wedi ennill gwobrau a sut gallem eich cynorthwyo gyda’ch danfoniadau a help gan ein timau gofal sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol, cliciwch yma neu ffoniwch ni ar 0800 220 300 / 0800 028 6848 yng Ngogledd Iwerddon!
Os hoffech ddysgu mwy am ein hymgyrch #GwiredduNewid neu gymryd rhan, cliciwch yma.