Rydym yn falch o gynnig gwasanaethau Cymraeg i’n cwsmeriaid. Pa un ai a ydych chi’n sgwrsio â’n hymgynghorwyr cyfeillgar Cymraeg eu hiaith neu’n pori drwy’n llyfrynnau gwybodaeth, rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth gwych rydych chi’n ei haeddu.

Oes gennych chi gwestiwn? Mae ein tîm gwasanaethau cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith ymroddgar ar gael i’ch helpu a’ch cyfeirio at y lle cywir.

Bwrwch olwg dros ein hystod o lenyddiaeth ddwyieithog Cymraeg/Saesneg isod:

Edrych am wybodaeth yn Cymraeg?

Edrychwch ar ein ffilmiau gwybodaeth Cymraeg isod

Cymraeg - Colostomi

Cymraeg - Ileostomi

Cymraeg - Wrostomi

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf amdanom ni ar-lein trwy gyfrwng sianeli Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol isod:

Instagram Facebook

Gwasanaethau cyfietithu

Mae Respond yn darparu gwasanaeth cyfieithu Language Line; gwasanaeth cyfieithu ar y pryd dros y ffôn i gwsmeriaid a nyrsys sy’n dymuno sgwrsio yn yr iaith o’u dewis. Mae gwasanaeth Language Line, sydd ar gael mewn dros 200 iaith, yn cynnig cyfieithu ar y pryd dros y ffôn hawdd a chyflym, gan sicrhau bod y neges a gyfieithwyd yn cyfleu ystyr y gwreiddiol mor glir â phosib, ac mae hynny’n cynnig tawelwch meddwl i’r nyrs a’r cwsmer.

Ar gais y clinigwr neu’r claf i ddefnyddio gwasanaeth Language Line, bydd yr alwad yn cael ei chysylltu ar unwaith, a bydd y cyfieithydd yn ymuno â’r alwad o fewn eiliadau. Mae hwn yn wasanaeth cyfrinachol a ddarperir yn rhad ac am ddim gan Respond Healthcare.