Mae ein prif swyddfa yng Nghaerdydd wedi dathlu carreg filltir werdd fawr yn ddiweddar, felly roedden ni eisiau rhannu’r erthygl y mae Wales 247 wedi’i rhannu gyda chi. Mwynhewch!

Mae Pelican Healthcare Ltd yng Nghaerdydd, sef un o’r prif weithgynhyrchwyr cynhyrchion stoma tafladwy ym marchnad gofal iechyd y Deyrnas Unedig, yn dathlu llwyddiant ei fenter gwrthbwyso carbon trwy gyhoeddi ei fod wedi arbed allyriadau CO2 sy’n cyfateb i effaith plannu mil o goed.

Gan ymateb yn uniongyrchol i strategaeth Un Blaned Cyngor Caerdydd, sy’n ceisio gwneud Caerdydd yn ddinas carbon niwtral erbyn 2030, buddsoddodd Pelican Healthcare tua £500k mewn paneli solar newydd i sicrhau bod ei brosesau gweithgynhyrchu’n cael eu darparu trwy ynni gwyrdd, cynaliadwy, gan arbed 102.54t o CO2 o ganlyniad. Trwy newid i baneli solar, mae hefyd wedi defnyddio 95% o’r ynni a grëwyd gyda 5% yn cael ei anfon yn ôl i’r grid.

Mae cyfanswm o oddeutu 2,350 o baneli solar wedi cael eu gosod yn ei bencadlys ym Mharc Busnes Caerdydd, sy’n gorchuddio bron 4,000 o fetrau sgwâr o’i do a chynhyrchu tua 614,000 kwh y flwyddyn.

Mae’r ymdrech hon i ddefnyddio ynni adnewyddadwy yn ei brosesau gweithgynhyrchu yn bodloni un o themâu allweddol Strategaeth Un Blaned Caerdydd; Ynni – sut mae’n cael ei ddefnyddio, ei ganfod, ei ddosbarthu a’i gynhyrchu, ac mae Pelican yn arwain y ffordd fel gweithgynhyrchwr mawr yn y ddinas.

Mae Pelican Healthcare, sy’n rhan o Eakin Healthcare Group, yn cynnig amrywiaeth eang o gynhyrchion ostomi ac ymataliaeth arloesol, gan gynnwys cydau, cynhyrchion gofal croen, dillad cynhaliol a llinellau eraill. Trwy ei chwaer-gwmni, Respond Healthcare, mae’n darparu gwasanaethau rhoi presgripsiynau, danfon i’r cartref a chymorth i’r gymuned gofal stoma ac ymataliaeth ledled y Deyrnas Unedig.

Wrth sôn am ganlyniadau ei ymgyrch ynni adnewyddadwy, dywedodd Stuart Welland, Rheolwr Gyfarwyddwr, Pelican & Respond Healthcare UK: “Rydym yn blês iawn â’r effaith y mae gosod paneli solar wedi’i chael ar ein systemau gweithgynhyrchu ac yn falch ein bod wedi atgyfnerthu hyn â’r arbedion CO2 sy’n cyfateb i blannu mil o goed.

“Rydym eisiau dangos arweinyddiaeth yn ein prosesau busnes a’u galluoedd gweithgynhyrchu, ac mae defnyddio ynni glân, cynaliadwy yn ein gweithrediadau’n gam naturiol a hollbwysig ymlaen.

Rydym yn credu’n gryf yn strategaeth Caerdydd Un Blaned Cyngor Caerdydd a hoffem gyfrannu at sicrhau bod ei nodau a’i hamcanion yn gyflawnadwy. Rydym ar ddechrau ein taith gynaliadwyedd a’r paneli solar a’u heffaith yw’r cam cyntaf yn ein gweledigaeth gynaliadwyedd.”

Rydym mor falch o’r canlyniadau hyn, ac yn methu aros rhannu mwy ohonynt gyda chi yn y dyfodol! Gallwch ddarllen y datganiad i’r wasg yma:

Pelican Healthcare Celebrates a Green Milestone

 

I gael mwy o wybodaeth am ein gwasanaeth sydd wedi ennill gwobrau, cliciwch yma neu ffoniwch ni! Os hoffech gael gwybod mwy am ein hymgyrch #GwiredduNewid neu gymryd rhan, cliciwch yma.

Gallwch gael gwybod y diweddaraf am ein holl newyddion a gweithgareddau ar ein sianeli cymdeithasol:

         

Sign up to our newsletter

Keep up to date with our latest news