Dyma Keith!

Mae Keith yn ddyn 58 oed o Abertawe, de Cymru, a gafodd ddiagnosis o lid briwiol y coluddyn yn 2008 ac a gafodd ei lawdriniaeth ileostomi ym mis Mai 2012.

Mae Keith yn ddefnyddiwr gwasanaeth dosbarthu Respond, yn frenin yr hun-lun ac yn codi arian ar gyfer nifer o elusennau. Mae ei natur gadarnhaol mor heintus fel y gofynnom a fyddai’n fodlon gofalu am ein blog am wythnos neu ddwy i drafod rhai materion pwysig a rhannu syniadau, yn y gobaith y bydd yn helpu hyd yn oed un unigolyn sydd wedi cael llawdriniaeth ostomi. Croeso felly i “Gornel Keith”!

Mae ei flog cyntaf yn ymwneud â pham y dewisodd Keith newid o ddefnyddio’r fferyllfa i gael ei gyflenwadau stoma, i ddefnyddio ein gwasanaeth arobryn ni. Mwynhewch!

 

Yn fuan ar ôl i mi gael llawdriniaeth ostomi yn 2012, rwy’n cofio’r nyrs stoma yn dweud y byddai’r swp cyntaf o’r nwyddau roedd eu hangen arna’ i’n cael eu hanfon i’r tŷ drwy wasanaeth cludo am ddim, ac y gallwn ddisgwyl cael pac popeth am ddim ar gyfer fy holl hanfodion newydd, a siswrn am ddim i dorri fy magiau. Roedd y rhain yn handi dros ben ar y pryd, gan fy mod i’n defnyddio bagiau un-darn.

Doeddwn i ddim yn gwybod nac yn deall bryd hynny sut roedd gwasanaeth cludo’n gweithio; beth ydoedd a beth roedd yn ei wneud mewn gwirionedd. Yn ôl yn 2012, dim ond megis dechrau dod yn boblogaidd oedd cyfryngau cymdeithasol a doeddwn i ddim yn gallu manteisio ar y fforymau a’r cylchoedd trafod amrywiol sydd ar gael erbyn hyn, felly doedd dim ffordd i mi weld beth roedd pobl eraill yn ei wneud. Yn fy niniweidrwydd, ar ôl i’r nwyddau cyntaf hynny gael eu cludo, roeddwn i’n tybio mai’r ffordd orau ymlaen oedd casglu fy mhresgripsiwn gan y meddyg teulu, ac i’r nwyddau oedd wedi’u rhestru arno gael eu paratoi gan y fferyllfa. Un o’r prif resymau am hyn oedd bod gen i ofn y byddai’r nwyddau’n cael eu cludo i’m cartref pan roedd fy ngwraig a minnau yn y gwaith. Yn fwy na thebyg, byddai problem yn codi pe na fyddai unrhyw un o gwmpas i dderbyn y nwyddau, ac nid oedd y syniad o geisio dod o hyd i barsel ‘coll’ yn un roeddwn yn edrych ymlaen ato.

Byddai peth amser yn mynd heibio nes i mi ddod i werthfawrogi pa mor wych y mae’r gwasanaeth cludo i’r cartref.

Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, roedd y fferyllfeydd a ddefnyddiais yn wych i ddechrau; roedd y nwyddau roedd eu hangen arna’ i’n cael eu harchebu’n brydlon ac yn cyrraedd y fferyllfa ar y diwrnod disgwyliedig. Fodd bynnag, ni pharodd hyn yn hir. Yn araf deg, roeddwn yn sylwi bod yr archeb yn anghyflawn – yn sydyn, doedd pethau ddim ar gael neu ddim mewn stoc. Arweiniodd hyn at nifer o deithiau ychwanegol i’r fferyllfa; byddwn i neu fy ngwraig yn mynd allan o’n ffordd i alw heibio ar hap i weld a oedd yr eitemau coll wedi cyrraedd, a oedd yn ben tost, a dweud y lleiaf. Roeddwn i’n dod yn fwyfwy pryderus gan fy mod i wir yn poeni y gallai’r pethau pwysig hyn redeg allan, ac yna beth fyddwn i’n ei wneud?

Y llynedd, penderfynais ei fod yn dod yn hollol wirion, felly ffoniais i Respond. Roeddwn i eisoes yn adnabod tîm Respond a Pelican yn dda drwy wahanol brosiectau roeddwn yn gysylltiedig â nhw. Fel roedd yn digwydd, Respond oedd wedi dosbarthu fy mhecyn cyntaf yn ôl yn 2012, ac roedd fy nata ar y system o hyd. Ar ôl ychydig o fân ddiweddariadau pwysig (fel newid fy nghyfeiriad), erbyn hyn mae fy nwyddau ostomi’n cael eu cludo’n uniongyrchol i’r drws bob mis.

Felly pam mae’r gwasanaeth hwn mor dda? Wel, i ddechrau, mae Respond yn mynd i drafferth i ffonio ychydig ddyddiau cyn mae’r archeb i fod i gyrraedd i wneud yn siŵr eu bod nhw’n anfon yn union beth sydd ei angen arna’ i. Os ydw i’n digwydd methu’r alwad, maen nhw’n edrych yn ôl ar eu cofnodion ac yn pacio’r hyn rydw i’n ei archebu fel arfer, felly mae’n annhebygol y bydd unrhyw beth yn cael ei fethu. Mae’r dyddiad dosbarthu disgwyliedig yn cael ei gadarnhau, ac rwy’n cael neges testun bob tro i roi gwybod i mi ba bryd bydd y nwyddau’n cyrraedd. Y fantais yw fy mod i’n gallu gofyn i’r gyrrwr adael y pecyn mewn man diogel cytûn neu gyda chymydog os ydw i’n gwybod na fydd unrhyw un gartref i’w dderbyn yn uniongyrchol. Mae hyn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr; dim mwy o deithiau ychwanegol i’r fferyllfa i gasglu nwyddau sydd wedi cyrraedd yn hwyr, ac yna gwrando ar amryw esgusodion gwael pam nad oedd/ydy’r nwyddau ar gael, a gwastraffu fy amser gwerthfawr. Erbyn hyn, mae popeth sydd ei angen arna’ i’n cyrraedd yn brydlon yn ôl y disgwyl, ac rwy’n fodlon iawn.

Felly, efallai ei fod wedi cymryd chwe blynedd i mi ailddarganfod buddion y gwasanaeth cludo, ond mae wedi gwneud byd o wahaniaeth. Mae’r pryder a’r drafferth wedi diflannu, diolch i’r bobl wych yn Respond. Diolch yn fawr iawn i chi am y cyfathrebu rhagorol a’r gwasanaeth rhagorol. Byddwn yn eu hargymell i unrhyw un.

Diolch, Keith.

Gallwch ddarganfod mwy am Keith a dilyn ei daith ar Twitter yn @keiththom2014.

 

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein holl newyddion a gweithgareddau ar ein sianeli cymdeithasol:

         

Sign up to our newsletter

Keep up to date with our latest news